Beth yw Cogent?

Cyngor Sgiliau Sector yw Cogent, un o 25 o gyrff a drwyddedwyd gan y Llywodraeth i ddiwallu anghenion sgiliau cyflogwyr mewn sectorau penodol o ddiwydiant. Cogent yw’r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y diwydiannau canlynol:

  • Cemegol
  • Niwclear
  • Deunydd Fferyllol
  • Petroliwm
  • Olewau a Nwy
  • Polymerau

Os hoffech gael gwybod rhagor am bopeth y mae Cogent yn ei wneud, edrychwch ar y brif wefan.


Yr hyn y mae gwefan Gyrfaoedd Cogent yn ei drafod

Mae’r wefan hon yn trafod popeth am y gyrfaoedd yn niwydiannau Cogent. Yn Cogent, rhan bwysig o’n gweithgareddau yw gadael i bawb wybod am yr amrywiaeth anferth o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiannau sy’n rhan o’r sector.

Bydd y wefan yn dweud wrthych am bob un o’r diwydiannau, a bydd yn dangos y cyfleoedd ar gyfer cychwyn ar yrfa a symud ymlaen. Trwy’r wefan gallwch ddysgu am y mathau o waith sydd ym mhob diwydiant yn fras, dysgu am swyddi penodol, sut y gwnaeth pobl wahanol gychwyn a symud ymlaen, y nodweddion a’r cymwysterau y bydd arnoch eu hangen - yn fyr popeth y bydd arnoch ei angen i gael blas ar weithio yn y sector Cogent. Mae’r wefan a'i gwybodaeth yn newid a thyfu yn unol â’n diwydiannau deinamig, felly dewch atom o bryd i’w gilydd i weld beth sydd wedi cael ei ychwanegu a beth sy’n newid.

Ble i fynd o’r fan hyn…

Bydd cynnwys y wefan hon o ddiddordeb ac yn rhoi gwybodaeth i amrywiaeth o bobl.

  • Myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau
  • Rhieni pobl ifanc sy’n penderfynu ar yrfa
  • Athrawon
  • Cyflogwyr yn niwydiannau’r sector
  • Gweithwyr tu mewn a thu allan i’r sector
  • Darparwyr dysg

Darganfyddwch fwy…

Dewiswch opsiwn isod. Byddwch yn cael eich arwain at y math o wybodaeth sydd wedi ei theilwra ar eich cyfer.